Mae ofnau bod “cannoedd” o ffoaduriaid wedi boddi ym Môr y Canoldir ar ôl i’w cychod droi drosodd ar eu ffordd i Ewrop, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd llysgennad Somalia wrth y BBC bod tua 400 o ffoaduriaid wedi marw.

Yn ôl adroddiadau roedden nhw’n ffoi i’r Eidal o Somalia, Ethiopia ac Eritrea mewn pedwar cwch nad oedd yn addas ar gyfer y daith.

Yn ôl Arlywydd yr Eidal, Sergio Mattarella mae’n ymddangos bod rhai cannoedd o bobl wedi marw.