Mae cwmni dur Tata wedi penodi prif weithredwr ar gyfer ei fusnes yn y Deyrnas Unedig wrth iddo barhau i edrych am brynwr i’w safleoedd dur.

Bimlendra Jha, aelod o fwrdd gweithredol Tata Steel yn Ewrop, a fydd wrth y llyw yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn i filoedd o weithwyr dur yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Ysgrifennydd Busnes y DU, Sajid Javid a Gweinidog Economi Cymru, Ewina Hart deithio i Frwsel i gyfarfod â gweinidogion o bob cwr o’r byd i drafod argyfwng y diwydiant dur.

Un o brif amcanion y cyfarfod yw trafod sut y gall llywodraethau hwyluso ailstrwythuro’r diwydiant.

Ym mis Mawrth eleni, fe gyhoeddodd y cwmni dur o India, Tata, ei fod am werthu’r asedau yn y DU oherwydd yr effaith ar brisiau yn sgil “dympio dur rhad” o China.

‘Ystyried pob opsiwn’

Mae Tata wedi dweud ei fod wedi cysylltu â 190 o fuddsoddwyr ariannol a diwydiannol ledled y byd ers iddo ddechrau’r broses o werthu’r busnes yn swyddogol wythnos yn ôl.

Hyd yn hyn, dim ond cwmni Liberty Steel, sydd wedi dangos diddordeb yn gyhoeddus mewn prynu’r busnes, sy’n cynnwys y safle dur ym Mhort Talbot, lle mae 4,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi.

Yn ôl Koushik Chatterjee, cyfarwyddwr Tata Steel, bydd penodiad Bimlendra Jha yn “canolbwyntio’n llawn ar y tasgau hanfodol sydd ar y gweill i Tata Steel yn y DU.”

“I sicrhau mwy o eglurder i randdeiliaid fel gweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr, mae’n bwysig bod y tîm newydd yn ystyried pob opsiwn posib o fewn terfyn amser.”

Mae Tata hefyd wedi cyhoeddi y  bydd y cwmni Standard Chartered Bank yn ymgynghorydd ychwanegol i’r cwmni yn ystod y broses werthu.