Y Pab Ffransis, sydd wedi gofyn am ymateb dyngarol i'r argyfwng ffoaduriaid ledled Ewrop
Mae 12 o Foslemiaid o Syria wedi cael teithio i’r Eidal ar awyren y Pab Ffransis.
Fe fu’r Pab yn ymweld ag ynys Lesbos oddi ar Wlad Groeg, lle cafodd ei gyfarch gan ffoaduriaid oedd ar eu gliniau.
Mae 3,000 o ffoaduriaid yn wynebu’r posibilrwydd o gael eu gorfodi i ddychwelyd i Dwrci fel rhan o gytundeb newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Wythnos yn ôl, penderfynodd y Pab y byddai tri theulu’n cael dychwelyd i’r Eidal gydag e yn dilyn awgrym gan un o swyddogion y Fatican.
Yn ystod ei ymweliad, galwodd y Pab ar wledydd Ewrop i ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid mewn ffordd ddyngarol.
Mae miloedd o ffoaduriaid wedi teithio i Lesbos dros y flwyddyn diwethaf.
Mae’r Pab wedi gwadu honiadau mai “rhesymau gwleidyddol” oedd yn gyfrifol am ei benderfyniad i groesawu ffoaduriaid i’r Eidal.
Bydd y gymuned Babyddol yn gofalu am y teuluoedd, meddai’r Pab, ac mae disgwyl iddyn nhw wneud cais ffurfiol am loches maes o law.