Mae’r traffig yn araf fore Sul ar yr A484 yn Sir Gâr ar ôl i bolyn gwympo i ganol y ffordd, ac fe fu damwain ar y ffordd hefyd.
Roedd dau gerbyd mewn gwrthdrawiad rhwng Cydweli a Llandefaelog am oddeutu 10.45yb ond ni chafodd y ffordd ei chau.
Mae oedi o hyd i deithwyr sy’n teithio rhwng Porth Tywyn a Chaerfyrddin.