Mae Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers wedi cyhuddo cefnogwyr yr ymgyrch tros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd o “godi ofn o’r math mwyaf anghyfrifol a pheryglus” drwy awgrymu y gallai gadael Ewrop beryglu proses heddwch y wlad.

Dywedodd Villiers, sy’n cefnogi ymgyrch ‘Vote Leave’, fod cryn gefnogaeth i “ddyfodol hollol heddychlon” yng Ngogledd Iwerddon ac na fyddai hynny’n newid pe bai Prydain y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae ymgyrchwyr o blaid aros yn Ewrop wedi rhybuddio na fyddai’r gefnogaeth ariannol a gwleidyddol a gafodd ei rhoi i gytundeb Gwener y Groglith yn parhau pe bai Prydain yn pleidleisio o blaid gadael.

Dywedodd Theresa Villiers wrth raglen Murnaghan ar Sky News: “Rwy’n credu mai codi ofn o’r math mwyaf anghyfrifol a pheryglus yw hyn oherwydd yr hyn maen nhw’n ei ddweud mewn gwirionedd yw y byddai pleidlais tros adael yr Undeb Ewropeaidd rywsut yn gwanhau ymrwymiad pobol yng Ngogledd Iwerddon i heddwch a democratiaeth, yn gwanhau eu hymrwymiad i benderfynu eu dyfodol drwy ddemocratiaeth a chaniatâd.”

Ychwanegodd nad yw hi’n credu y byddai’r ffiniau rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn cael eu newid pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.