Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a dwy ddynes ym Merthyr Tudful fore Sadwrn.

Cafodd y ddwy – sy’n 19 a 21 oed – eu taro yn y dref am oddeutu 2.45 y bore, ac maen nhw’n dal i fod yn yr ysbyty ag anafiadau a allai newid eu bywydau.

Mae Kristian Churchill, 37, hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod ac o yfed a gyrru.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd e’n ymddangos gerbron ynadon y dref ddydd Llun.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar gar Renault Megane du, ac mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.