Y prif bleidiau'n trafod eu polisi trethi ar drothwy etholiadau'r Cynulliad ar Fai 5
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi y bydden nhw’n torri dwy geiniog oddi ar y dreth incwm pe baen nhw’n dod i rym yn y Cynulliad.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn yr hawl o fewn pum mlynedd i addasu lefelau trethi yng Nghymru.

Golyga’r cyhoeddiad diweddaraf fod y Ceidwadwyr wedi dyblu’r hyn yr oedden nhw wedi’i addo’n gynharach.

Maen nhw’n cynnig pum ceiniog oddi ar y lefel uchaf o 40% ar incwm o £43,000 a mwy, ac yn addo peidio codi lefelau’r dreth incwm yn uwch na’r lefel bresennol.

Yn y Sunday Times, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies y byddai ei blaid yn cynnig “deddfwriaeth aeddfed, atebol” ac fe ddywedodd y byddai llywodraeth Geidwadol ym Mae Caerdydd yn “cymryd cyfrifoldeb am beth o’r arian mae’n ei wario ac yn ei godi”.

Eisoes, fe ymrwymodd y Blaid Lafur i beidio newid lefelau’r dreth incwm yn ystod y cyfnod nesaf yn y Cynulliad.

Er bod Plaid Cymru hefyd wedi addo peidio cynyddu lefelau’r dreth incwm, maen nhw’n cynnig cyflwyno haen newydd yn y canol.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig torri ceiniog oddi ar y lefel bresennol, tra bod UKIP yn awyddus i gynnal refferendwm ar y mater cyn datganoli’r dreth incwm, yn groes i bolisi presennol Llywodraeth Prydain.

Ymateb Llafur

Wrth ymateb i addewid y Ceidwadwyr, mae’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt wedi dweud mai “ymgais olaf” yw hyn gan y Ceidwadwyr i ennill pleidleisiau.

“Maen nhw eisoes wedi tynnu £1.2 biliwn allan o Gymru a byddai’r cyhoeddiad heddiw yn gweld £360 miliwn yn rhagor yn cael ei golli.

Ychwanegodd y byddai’r polisi hwn yn chwalu Cymru’n ariannol ac yn golygu “toriadau anferth” i wasanaethau cyhoeddus.