Mesurau newydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno dirwyon newydd am adael sbwriel allan o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Ymgais yw’r dirwyon i godi lefelau ailgylchu yn y sir er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.
Pe bai’r arbrawf yn aflwyddiannus, dywed cabinet y Cyngor y byddai’n rhaid iddyn nhw fod yn barod i ystyried casglu sbwriel bob tair wythnos.
O fis Mehefin nesaf ymlaen, dim ond sbwriel mewn biniau ag olwynion fydd yn cael ei gasglu, a bydd y dirwyon newydd yn dod i rym fis Medi nesaf.