Y Ceidwadwyr yn tynnu sylw at fanteision iechyd e-sigarets
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar wedi rhybuddio y byddai clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad yn arwain at waharddiad ar e-sigarets.

Daw sylwadau Millar ar ôl i Blaid Cymru benderfynu peidio crybwyll y mater yn eu maniffesto.

Mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn gwrthwynebu’r gwaharddiad arfaethedig, gan dynnu sylw at lwyddiant e-sigarets wrth i bobol geisio rhoi’r gorau i ysmygu.

Un o addewidion y Ceidwadwyr Cymreig ar drothwy’r etholiadau ar Fai 5 yw peilota’r defnydd o e-sigarets mewn gwasanaethau sy’n annog pobol i roi’r gorau i ysmygu sigarets.

Bwriad y llywodraeth Lafur bresennol yw gwahardd y defnydd o e-sigarets mewn mannau cyhoeddus, ond cafodd yr awgrym ei wrthod gan aelodau’r Cynulliad fis diwethaf.

Mewn datganiad, dywedodd Darren Millar: “Mae e-sigarets wedi helpu miloedd o bobol ledled Cymru i roi’r gorau i ysmygu a lleihau faint o dybaco maen nhw’n ei gael, ac mae rhyfel Llafur ar e-sigarets yn mynd yn groes i dystiolaeth sy’n dangos manteision i bobol sy’n newid o ysmygu i gymryd e-sigarets o ran eu hiechyd.”

Ychwanegodd fod diffyg sylw at y mater gan Blaid Cymru’n awgrymu eu bod nhw’n barod unwaith eto i glymbleidio â’r Blaid Lafur.