Y difrod a wnaed i'r maes awyr ym Mrwsel yn yr ymosodiad
Mae dau ddyn arall wedi cael eu cyhuddo o droseddau’n ymwneud a brawychiaeth mewn cysylltiad â’r ymosodiadau ym Mrwsel, meddai’r awdurdodau yng Ngwlad Belg.

Roedd y ddau, sy’n cael eu hadnabod fel Smail F ac Ibrahim F, yn gysylltiedig â rhentu fflat yn ardal Etterbeek ym Mrwsel lle’r oedd yr hunan-fomiwr a ymosododd ar orsaf drenau Metro Brwsel wedi bod yn cuddio, ynghyd a pherson arall sy’n cael ei amau o’i gynorthwyo, meddai swyddfa’r erlynydd.

Bu farw 16 o bobl yn yr ymosodiad ar 22 Mawrth, ynghyd a 16 o bobl eraill mewn ymosodiad ar yr un diwrnod ym maes awyr Brwsel.