Wrth i gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig wanhau, mae Plaid Cymru wedi camu i’r ail safle yn y pôl piniwn diweddaraf ynglŷn ag etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Llafur Cymru sy’n parhau i fod ar y blaen o fwy na 10% o’r bleidlais, gyda 35%, gyda’r pôl hefyd yn awgrymu y bydd Ukip yn ennill sawl sedd am y tro cyntaf.
Mae’r pôl diweddaraf yn dangos bod cefnogaeth y blaid Geidwadol yng Nghymru wedi cwympo 3%, tra bod Ukip wedi elwa o 2%.
Bydd yr arolwg hefyd yn halen ar y briw i’r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda’i chefnogaeth bellach ar 6%.
Tra nad oes newid un ffordd na’r llall yn ei chefnogaeth ers y mis diwethaf, mae’n parhau i fod ymhell y tu ôl i UKIP, sydd bellach ar 17%.
Plaid Cymru i gipio dwy sedd?
Yn ôl yr Athro Roger Scully, cyfarwyddwr yr arolwg, mae’n dangos y gall Blaid Cymru gipio sedd Llanelli o Lafur a chipio Gorllewin Caerfyrddin a Sir Benfro o ddwylo’r Ceidwadwyr.
Tra byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn mynd â sedd Canol Caerdydd oddi ar Lafur Cymru os bydd y pôl yn gywir.
“Llafur yw’r ceffyl blaen o hyd. Ond mae lefelau ei chefnogaeth lawer yn llai o le oedd ar yr un adeg o’r cylch etholiadol bum mlynedd yn ôl,” meddai’r Athro Roger Scully.
Mewn arolwg barn gan YouGov yn 2011, roedd Llafur Cymru ar 49% o’r bleidlais etholaeth a 44% ar y bleidlais ranbarthol, sy’n dangos ei bod ar hyn o bryd yn rhedeg 14 pwynt yn is na lle oeddent y llynedd, meddai’r Athro Scully.
Ac er bod Plaid Cymru yn ennill tir yn y pleidleisiau etholaeth, mae ei chefnogaeth wedi cwympo rhywfaint yn y bleidlais ranbarthol.
“Prin yw’r #PlaidSurge y mae ei chefnogwyr yn breuddwydio amdano,” meddai.
O ran y Ceidwadwyr, dywedodd yr Athro Scully mai anawsterau’r blaid ar lefel Brydeinig oedd ar fai am gael rhyw faint o effaith ar ragolygon y Torïaid yn etholiad y Cynulliad.
Dyma’r canlyniadau llawn, gyda’r newid mewn cromfachau ers yr arolwg diwethaf a gafodd ei gynnal mis yn ôl.
Pleidlais etholaeth
Llafur: 35% (+1)
Plaid Cymru: 21% (dim newid)
Ceidwadwyr: 19% (-3)
UKIP: 17% (+2)
Democratiaid Rhyddfrydol: 6% (dim newid)
Eraill: 3% (dim newid)
Pleidlais ranbarthol
Llafur: 31% (dim newid)
Ceidwadwyr: 20% (-2)
Plaid Cymru: 20% (-2)
UKIP: 16% (+2)
Democratiaid Rhyddfrydol: 5% (dim newid)
Gwyrddion: 4% (dim newid)
Eraill: 3% (dim newid)
Ar y cyfan
Llafur: 28 sedd (26 sedd etholaeth + 2 sedd ranbarthol)
Plaid Cymru: 12 sedd (7 sedd etholaeth + 5 sedd ranbarthol)
Conservatives: 10 sedd (5 sedd etholaeth + 5 sedd ranbarthol)
UKIP: 8 sedd (8 sedd ranbarthol)
Liberal Democrats: 2 sedd (2 sedd etholaeth)