Adrian St John
Mae cricedwr o Brydain oedd yn aelod o academi Chris Gayle wedi cael ei saethu’n farw tra roedd ar wyliau yn y Caribî.
Y gred yw bod Adrian St John, 22, wedi cael ei saethu gan ladron arfog yn Trinidad nos Sul.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor ei bod mewn cysylltiad ag awdurdodau’r wlad yn dilyn “marwolaeth dinesydd o Brydain yn Trinidad” a’i bod yn “barod i ddarparu cymorth.”
Fe wnaeth y cricedwr enwog o Ynysoedd y Caribî, Chris Gayle, drydar y newyddion, gan ddweud, “Newyddion mor drist. Fy nghydymdeimlad â’i deulu a’i ffrindiau. Adrian St John oedd capten yr academi.”
Dywedodd Donovan Miller, un o hyfforddwyr Adrian St John, ei fod yn un o aelodau cyntaf Academi Chris Gayle yn Llundain, sef rhaglen ar gyfer cricedwyr ifanc addawol.
“Rydw i mewn sioc. Rwy’n ei chael yn anodd iawn dod i delerau a hyn, sut y gallai rhywun wneud rhywbeth felly i berson mor hyfryd,” meddai.