Mae’r troellwr 22 oed o Sir Benfro, Andrew Salter wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg am dair blynedd arall.

Bydd y cytundeb yn ei gadw gyda’r sir tan o leiaf 2019.

Ers cipioo wiced gyda phelen gynta’i yrfa yn 2013, mae Salter wedi cipio 43 wiced ac wedi sgorio 584 o rediadau mewn 24 o gemau dosbarth cyntaf.

‘Balch’

Dywedodd Salter ei fod yn “falch o ymrwymo” i Forgannwg.

“Yn sicr, mae rhywbeth arbennig am chwarae dros Forgannwg a gwisgo’r daff.

“Dyna dw i wedi bod eisiau ei wneud ers i fi ddechrau chwarae dros Gymru dan 11 gydag Alan Jones [llywydd Morgannwg] yn hyfforddwr arna’i.

“Mae’n gyfle gwych ac rwy’n gobeithio achub arno fe’n llwyr.”

‘Un o sêr y dyfodol’

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Mae e’n chwaraewr o Gymru sydd wedi dod trwy ein rhaglen ddatblygu ein hunain ac mae e eisoes wedi cael profiad gwerthfawr gyda’r tîm cyntaf.”

“Un o amcanion y clwb yw darganfod a datblygu’r genhedlaeth nesaf o sêr Morgannwg ac mae Andrew yn un sydd wedi cael ei ddatblygu gartref ac sydd â’r gallu i lwyddo ac ennill anrhydeddau gyda’r clwb yn y dyfodol.”