Dinas Jalalabad yn Afghanistan
Mae o leiaf 12 o recriwtiaid newydd byddin Afghanistan wedi cael eu lladd mewn ymosodiad gan hunan-fomiwr yn ninas Jalalabad, meddai swyddog yr ysbyty yno.

Dywedodd Ahsanullah Shinwari, pennaeth ysbyty Jalalabad bod 12 o gyrff wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn y ddinas sydd tua 77 milltir o’r brifddinas Kabul.

Cafodd tua 38 o bobl eraill eu hanafu, meddai, gyda’r rhan fwyaf mewn cyflwr difrifol.

Roedd y rhai gafodd eu lladd yn recriwtiaid newydd i’r fyddin a oedd yn teithio ar fws ar gyrion Jalalabad – prifddinas talaith Nangarhar.

Yn ôl adroddiadau roedd yr hunan-fomiwr wedi gyrru ei feic modur i mewn i’r bws gan achosi’r ffrwydrad.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn. Mae nifer o ymosodiadau tebyg yn digwydd yn Jalalabad gan fod nifer o grwpiau o wrthryfelwyr sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth wedi eu sefydlu yn y dalaith.