Ymgyrch farchnata Croeso Cymru
Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig ddatgelu eu cynlluniau heddiw ynglŷn â sut byddai’r blaid yn hybu’r sector dwristiaeth yng Nghymru pe baen nhw’n dod i rym wedi etholiadau’r Cynulliad.
Un o’u cynlluniau yw rhyddhau’r corff ‘Croeso Cymru’ oddi wrth ymyrraeth y llywodraeth, sydd ar hyn o bryd yn rhan o Is-adran Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru.
“Bydden ni’n rhyddhau Croeso Cymru o reolaeth y Llywodraeth, gan ei ryddhau o hualau biwrocratiaeth ac agwedd ‘diogelwch yn gyntaf’ Llafur,” meddai Suzy Davies, ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Gorllewin De Cymru.
Fe fydden nhw hefyd yn ymrwymo i warchod Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru, ac yn cyhoeddi’r cynlluniau heddiw yn un o’r ardaloedd hynny, sef Penrhyn Gŵyr.
Y polisïau
Mae ymrwymiadau eraill y blaid i’r diwydiant twristiaeth yn cynnwys:
- Sefydlu cronfa i gynnig grantiau i fusnesau twristiaeth graddfa fach a chanolig i reoli biliau TAW a chynnal swyddi o safon.
- Gweithio gyda’r diwydiant i farchnata Cymru i farchnadoedd twristiaeth y DU a’r byd.
- Datblygu strategaethau i ymwelwyr ar gyfer trefi glan môr, treftadaeth grefyddol ynghyd â lleoliadau ffilm a theledu arwyddocaol.
Byddai’r busnesau bach a chanolig yn medru cynnig am y grantiau, gyda chorff Croeso Cymru ar ei newydd wedd yn eu gweinyddu.
‘Arweinydd byd ym maes twristiaeth’
Yn ôl Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, mae nifer yr ymweliadau gan drigolion o Brydain i Gymru wedi disgyn yn y blynyddoedd diweddar.
Bwriad y Ceidwadwyr Cymreig yw “gwyrdroi” hynny, oherwydd “mae gennym botensial anferthol i sicrhau bod Cymru yn arwain y byd, gan hyrwyddo ein cestyll, trefi glan môr, dinasoedd sy’n tyfu a’n tirluniau ysblennydd.”
“O dan Lywodraeth y Ceidwadwyr Cymreig, byddai’r diwydiant yn cael ei ryddhau o ymyrraeth y llywodraeth, gan roi’r potensial i Gymru ddod yn arweinydd byd ym maes twristiaeth a sicrhau newid go iawn a thwf i’r sector.”