Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cyhoeddi eu cynlluniau i gefnogi’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru, pe baent yn cael eu hethol wedi etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Un o’u cynlluniau yw cynnig pecyn arbennig i gefnogi ffermwyr mynydd yng Nghymru, gwerth £20miliwn y flwyddyn.
Byddai’r cynllun yn ymdebygu at gyfartaledd ariannol y cynllun ‘Tir Mynydd’ a ddaeth i ben yn 2012.
“Mae gan bob aelod o’r Undeb Ewropeaidd (UE), a phob un o weinyddiaethau datganoledig y DU rhyw fath o gefnogaeth gyllidol i’r rheiny sy’n ffermio mewn ardaloedd anodd – pob un heblaw am Gymru,” meddai Kirsty Williams.
“Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn rhoi’r gorau i’r anfantais annheg a chystadleuol hwnnw.”
Ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, Elizabeth Evans, yn trafod yr ymrwymiad â golwg360:
Cynlluniau< Mae eu cynlluniau eraill yn cynnwys:
- cyflwyno grantiau graddfa fach i ffermwyr i ddatblygu eu dewisiadau arallgyfeirio, lleihau eu hallyriadau carbon a gwella eu gwytnwch a’r gystadleuaeth.
- Hybu ffermio ar y cyd a chynllunio blynyddol er mwyn sicrhau dyfodol y fferm deuluol.
‘Uchelgeisiol’
Dywedodd Elizabeth Evans, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, fod y rhain yn gynlluniau “uchelgeisiol” fydd yn cefnogi ffermwyr.
“Mae’r system ‘Glastir’ gan Lafur a Phlaid wedi achosi llawer o gymhlethdod a rhwystredigaeth i nifer o ffermwyr.
“Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn symleiddio’r system bresennol gan sicrhau fod ffermwyr yn cael eu taliadau mewn pryd.
“Bydden ni hefyd yn cynnig mwy o grantiau graddfa lai i ffermwyr i fuddsoddi mewn lles anifeiliaid, lleihau allyriadau carbon a Thechnoleg Gwybodaeth fel y gallan nhw [ffermwyr] wella eu hamrywiaeth a’u helw.”