Mae’r awdurdodau yng ngwlad Groeg wedi rhoir gorau i anfon ffoaduriaid yn eu holau i Twrci, gan gydnabod fod y rhan fwya’ ohonyn nhw sydd wedi’u cadw mewn gwersylloedd ar ynysoedd Groeg wedi gwneud cais am loches.

Fe ddechreuodd yr Undeb Ewropeaidd anfon ffoaduriaid yn eu holau ddydd Llun, dan gytundeb gyda Thwrci. Ond does yr un cwch yn hwylio heddiw, a does yna ddim cynlluniau i symud yr un ffoadur.

Mae cyfarwyddwr Gwasanaeth Loches Groeg, Maria Stavropoulou, wedi bod ar deledu’r wlad yn dweud fod tua 3,000 o bobol sydd wedi bod mewn gwersylloedd ar yr ynysoedd, wedi gwneud cais swyddogol am loches, a bod disgwyl i’r broses swyddogol honno ddechrau cyn diwedd yr wythnos hon.

Mae cais fel arfer yn cymryd rhai misoedd i’w brosesu, ond fe all y ceisiadau diweddara’ hyn gael eu prosesu’n “sylweddol gynt”.