Mae bachgen wyth mlwydd oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori yn yr Alban.

Roedd y plentyn yn teithio mewn car Ford Focus ar briffordd yr A92 yn Kirkcaldy, Fife, ddydd Llun. Fe gafodd gyrrwr y car, dynes 36 oed, ei hanafu’n ddifrifol, ac fe gafodd bachgen naw oed arall ei anafu yn y digwyddiad toc cyn 3yp.

Mae Heddlu’r Alban yn dal i ymchwilio i achos y ddamwain, ac maen nhw’n cynghori teithwyr i osgoi ffordd yr A92.

Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau na chafodd gyrrwr y lori Iveco na’i gyd-deithiwr eu hanafu yn y ddamwain.