Maes awyr Brwsel wedi'r ffrwydradau yr wythnos ddiwethaf (llun: PA)
Fe fydd awyrennau teithwyr yn hedfan o faes awyr Brwsel yfory am y tro cyntaf ers yr ymosodiadau gan hunan-fomwyr yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd 16 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau ar 22 Mawrth a 16 arall mewn gorsaf metro yn y ddinas.

Dywedodd prif weithredwr y maes awyr, Arnaud Feist, fod ei ailagor yn “arwydd o obaith ar ôl y dyddiau duaf yn hanes hedfan yng ngwlad Belg”.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Gwlad Belg y bydd mesurau diogelwch newydd llym ar waith yn y maes awyr.

Y disgwyl yw y bydd y gwasanaeth llawn yn cael ei adfer erbyn tua diwedd mis Mehefin neu ddechrau mis Gorffennaf.