Protestiwr gwrth-fewnfudwyr yn llosgi’r faner Ewropeaidd yn Dover y prynhawn yma, gyda’r ddraig goch yn amlwg yn y cefndir (llun: Steve Parsons/Gwifren PA)
Mae lle i gredu bod Cymry ymhlith protestwyr asgell dde a fu’n gorymdeithio yn erbyn mewnfudwyr yn Dover y prynhawn yma.
Ymysg y baneri a oedd yn cael eu chwifio, roedd o leiaf un ddraig goch yn amlwg yn eu plith.
Cafodd wyth o bobl eu harestio yn y dref wrth i’r heddlu gadw dwy garfan fawr o brotestwyr oddi wrth ei gilydd.
Yn ogystal â’r brotest gan y grwpiau asgell dde yn erbyn mewnfudwyr, roedd protest yn eu herbyn gan grwpiau gwrth-ffasgaidd.
Roedd yr heddlu’n benderfynol o atal y gwrthdaro treisgar a fu rhwng y ddwy garfan mewn digwyddiad tebyg ym mis Ionawr.
“No more refugees” oedd cri’r protestwyr asgell dde wrth orymdeithio drwy’r dref, ac fe fuon nhw hefyd yn llosgi baner yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd llawer o weiddi a thyndra wrth iddyn nhw fynd heibio i brotestwyr gwrth-ffasgaidd a oedd hyd glan y môr, ond llwyddodd yr heddlu i’w cadw ar wahân.