Mae pedwar plismon wedi’u lladd ar ôl ffrwydrad ger gorsaf fws mewn dinas sydd â mwyafrif Cwrdaidd yn ne-ddwyrain Twrci.

Mae adroddiadau newyddion o’r ardal yn dweud bod o leiaf 14 wedi eu hanafu yn y digwyddiad yn ninas Diyarbakir.

Dywedodd asiantaeth newyddion Dogan mai bom car oedd yn gyfrifol a’i fod wedi targedu bws oedd yn cludo swyddogion yr heddlu.

Mae’r asiantaeth yn beio “brawychwyr” am y digwyddiad, sef disgrifiad llywodraeth y wlad am wrthryfelwyr Cwrdaidd.

Roedd y ffrwydrad wedi difrodi nifer o geir ac wedi torri ffenestri mewn adeilad aml-lawr yn yr ardal.