Y difrod ym maes awyr Brwsel wedi'r ymosodiad
Gall awyrennau ddechrau hedfan eto o faes awyr Brwsel, ond nid cyn y penwythnos, yn ôl yr awdurdodau.
Fe gafodd 35 o bobol eu lladd, a 270 eu hanafu, pan ffrwydrodd dyfeisiau hunan-fomwyr yn y maes awyr ac mewn gorsaf drenau tanddaearol ddydd Mawrth diwethaf.
Dywedodd cwmni gweithredol Maes Awyr Brwsel mewn datganiad heddiw bod y maes awyr yn “dechnegol barod” ar gyfer ail-gychwyn teithiau erbyn hyn.
Bydd y maes awyr yn ailagor wedi iddyn nhw gael cymeradwyaeth wleidyddol, ond ni fydd hynny’n digwydd cyn nos Wener.
Oherwydd y difrod a wnaed, ni fydd y maes awyr yn gallu cynnal gwasanaethau llawn ar hyn o bryd.
Daeth y datganiad ar ôl i’r heddlu yn y maes awyr ddatgelu eu bod wedi tynnu sylw at y diffyg diogelwch yn y maes awyr cyn yr ymosodiadau ar 22 Mawrth.