Jacob Ellis
Jacob Ellis sydd yn gofyn a fydd mwy yn pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad eleni…
Un o’r cwestiynau mawr wrth i etholiad y Cynulliad agosáu yw faint o bobol fydd yn bwrw eu pleidlais eleni?
Daw tarddiad y gair ‘democratiaeth’ o’r Groegaidd am ‘bŵer y bobol’, ond cyn i’r gwleidyddion gamu at y llyw fe fydd eu pŵer yn hollol ddibynnol ar faint o bobol fydd yn mynd i’r gorsafoedd pleidleisio ar 5 Mai.
Y turnout gorau i Gymru mewn etholiad Cynulliad oedd yn 1999 pan bleidleisiodd 46.4% o boblogaeth Cymru.
Ers hynny, mae nifer y bobl sydd wedi pleidleisio yn amrywio. Gall rhai ddweud mai newydd-deb yr etholiad cyntaf oedd yn gyfrifol am weld cynifer o bobol yn pleidleisio yn 1999.
Er hynny, fe benderfynodd mwyafrif y Cymry i beidio â phleidleisio, a hynny yw’r gwirionedd mewn pob etholiad Cynulliad yng Nghymru.
Bellach, ar ôl degawd o Gynulliad ym Mae Caerdydd, fy mhryder yn yr etholiad nesaf ym mis Mai yw y bydd yna ostyngiad pellach yn nifer y rhai sy’n bwrw pleidlais.
Er i’r etholiad cyffredinol gael ei hystyried yn llwyddiant o ran y nifer a bleidleisiodd gyda 66.1% yn pleidleisio – roedd traean o’r rheiny oedd wedi cofrestru i bleidleisio wedi penderfynu peidio â thrafferthu ar 7 Mai.
Newid yn y system gofrestru
Nid dyma’r etholiad cyntaf dan y system newydd o gofrestru i bleidleisio. Dan yr hen drefn roedd rhaid i aelod o’r teulu gofrestru pawb a oedd yn byw yn y tŷ, ond bellach rhaid i bawb gofrestru yn unigol.
Fe honnodd y Comisiwn Etholiadol fod dros 700,000 o bobl wedi disgyn oddi ar y rhestr etholiadol llynedd.
Fel cyn-lywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, rwy’n deall yr heriau o fagu diddordeb gwleidyddol ymysg pobl ifanc. Rwy’n poeni’n ddirfawr fod camau fel newid y drefn gofrestru yn ei gwneud hi’n anodd annog myfyrwyr i bleidleisio.
Anodd hefyd yw addysgu myfyrwyr ynglyn ag etholiadau yn gyffredinol, yn enwedig myfyrwyr sydd wedi eu hymddieithrio neu’n byw tu hwnt i Gymru.
Yn ystod yr Etholiad Cyffredinol llynedd fe aeth sawl awdurdod addysg ati i dargedu myfyrwyr yn benodol, lawlaw ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Bite the Ballot, a phrifysgolion.
Mawr yw’r gobaith y gall y cydweithio yma barhau ond rhaid cofio nad myfyrwyr yn unig sydd angen i ni dargedu. Yn wir, mae ‘na grwpiau anodd eu cyrraedd ym mhob cwr o Gymru, o bob oedran, ym mhob hil a chrefydd.
Cofiwch gofrestru drwy ddilyn y linc canlynol.
Yr Undeb Ewropeaidd
Mae llawer o drafod wedi bod yn ddiweddar y gall y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd olygu llai o ddiddordeb a sylw yn yr etholiad Cynulliad.
Roedd galw gan fwyafrif o arweinwyr y pleidiau yng Nghymru a’r Alban cyn cyhoeddi dyddiad y refferendwm y dylid ailystyried unrhyw ddyddiad mor agos at etholiadau’r Cynulliad.
Y turnout y tro diwethaf y bu refferendwm ar Ewrop oedd 64%. Ond y refferendwm olaf yng Nghymru oedd y refferendwm dros ddatganoli pwerau i Gymru yn 2011, pan bleidleisiodd 35.2%.
Diddordeb pleidleisio a’r cyfryngau
Mae’r cyfnod cynadleddau wedi gorffen ac ychydig iawn o sylw cyfryngol sydd wedi bod ers yr etholiad – gyda bron i bob prif bennawd yn cyfeirio at y refferendwm Ewropeaidd.
Ond, nid y papurau newydd yn unig fydd yn dylanwadu ar nifer y pleidleisiau. Hynny yw, rhaid ei wneud yn etholiad digidol hefyd.
Bydd y pleidiau a’r ymgeiswyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol fwyfwy wrth i’r dyddiau gyfri’ lawr.
Ond un peth yw creu cynnwrf a rhywbeth arall yw ysgogi’r cyhoedd i gyrraedd y gorsafoedd pleidleisio.
Pam fod yr Alban yn llwyddo?
O ran canran y pleidleisiau mewn etholiadau datganoledig, yr un yw’r patrwm ar draws y Deyrnas Unedig.
I’r Alban, fel Cymru, y flwyddyn gyntaf o etholiadau yn 1999 welodd y turnout gorau gyda dros 58% yn pleidleisio. Mae’r niferoedd wedi amrywio yno hefyd dros y blynyddoedd.
Yn eu hetholiad diwethaf yn 2011 fe bleidleisiodd 50.5%, ac yn wahanol i Gymru (yn rhannol dw i’n meddwl oherwydd refferendwm annibyniaeth yn yr Alban ac etholiad llwyddiannus i’r SNP yn Etholiad Cyffredinol 2015) mae’n debyg y bydd diddordeb gwleidyddol ymysg y bobol yn arwain at ddiddordeb pleidleisio ac felly ffigwr hyd yn oed yn uwch ar 5 Mai.
Y siom fwyaf i mi yn bersonol, ydi etholiad Cynulliad 2003 yng Nghymru lle mai 38% yn unig aeth i bleidleisio. Bron i dri chwarter o Gymru felly yn penderfynu’i hepgor.
A ddylid gorfodi pleidleisio?
Yng Nghymru, fel ar draws y Deyrnas Unedig nid yw’n orfodol i bobol bleidleisio ond rhaid iddynt gofrestru, neu wynebu dirwy bosib.
Yn ddiweddar fe gynhaliodd y Sefydliad Materion Cymreig ddigwyddiad mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister.
Gofynnwyd y cwestiwn ‘a fyddai gorfodi pleidleisio yn rhoi llais i’r rhai nad oedd yn cael eu clywed’?
Mae sawl gwlad yn gorfodi eu dinasyddion i bleidleisio gan gynnwys Gwlad Belg, Awstralia a’r Ariannin. Y wlad ddiweddaraf i gyflwyno pleidleisio gorfodol ydi Nauru, yn 1960.
Yn Awstralia, fe bleidleisiodd bron i 94.5% o boblogaeth y wlad yn yr etholiad diwethaf.
Sawl etholiad ar 5 Mai
Wrth gwrs, nid ethol Aelodau Cynulliad yn unig fydd Cymru ar 5 Mai. Bydd cyfle hefyd i ethol Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Hefyd, i’r rhai yn nalgylch Ogwr, fe fydd cyfle i ethol Aelod Seneddol mewn isetholiad wedi i Huw Irranca-Davies o’r Blaid Lafur gamu o’r neilltu er mwyn sefyll dros yr un etholaeth yn etholiad y Cynulliad.
A fydd yr etholiadau ychwanegol yma yn golygu bod mwy yn pleidleisio, neu lai? Amser a ddengys.
Mae Jacob Ellis yn astudio MA mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu ym Mhrifysgol Caerdydd.