Serbia
Mae tribiwnlys i droseddau rhyfel yn yr hen Iwgoslafia wedi dyfarnu bod y gwleidydd cenedlaetholgar Serbaidd, Vojislav Seselj, yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Roedd Vojislav Seselj wedi cael ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am, neu wedi ysgogi, erchyllterau gan luoedd Serbaidd yn ystod y rhyfel ym Mosnia a Croatia yn y 90au cynnar.
Nid oedd y diffynnydd yn bresennol yn y llys yn yr Hâg ar gyfer y gwrandawiad, ond dyfarnodd y barnwr, Jean-Claude Antonetti, ei fod bellach yn ddyn rhydd.
Roedd erlynwyr y Cenhedloedd Unedig wedi cyhuddo’r gwleidydd 61 mlwydd oed o droseddau oedd yn cynnwys erledigaeth, llofruddiaeth ac arteithio – ac wedi gofyn am ddedfryd o 28 mlynedd yn y carchar.
Ond penderfynodd y tri barnwr nad oedd digon o dystiolaeth i gysylltu Vojislav Seselj â’r troseddau.
Mae gan erlynwyr yr hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad.