Ronnie Corbett
Mae’r diddanwr Ronnie Corbett wedi marw’n 85 oed.
Bu farw y bore ma gyda’i deulu o gwmpas, meddai llefarydd ar ei ran.
Daeth yr actor a’r digrifwr i amlygrwydd gyda Ronnie Barker yn y rhaglen deledu The Two Ronnies.
Roedd yn un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif ac mae ei bartneriaeth gyda Ronnie Barker yn cael ei adnabod fel un o’r goreuon ym myd comedi.
Ganwyd Ronald Balfour Corbett yng Nghaeredin ac yn ogystal â The Two Ronnies, bu hefyd yn chwarae rhan amlwg yn The Frost Report ac yn fwy diweddar, yn Extras gyda Ricky Gervais.
‘Un o wir fawrion comedi Prydain’
Mae ei boblogrwydd wedi dod i’r amlwg heddiw gyda llu o deyrngedau yn dod gan bobl o bob maes.
Dywedodd Tony Hall, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC: “Roedd Ronnie Corbett yn ddiddanwr gwych. Yn syml, roedd yn un o wir fawrion comedi Prydain. Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg anodd hwn.”
Mae’r digrifwyr David Walliams a Jack Whitehall hefyd wedi talu teyrnged iddo ar Twitter a dywedodd Ricky Gervais ei bod hi wedi bod yn “anrhydedd” ei adnabod.
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron fod gan Ronnie Corbett y “gallu prin i wneud pob cenhedlaeth i chwerthin” ac meddai’r gŵr busnes Alan Sugar ei fod yn ddyn “doniol iawn.”