Donald Trump
Mae Donald Trump wedi cyrraedd Wisconsin cyn y bleidlais yno wrth i gysgod arall gael ei daflu dros ymgyrch y Gweriniaethwr yn y ras am y Tŷ Gwyn.
Ddoe, fe gyhoeddwyd bod rheolwr ymgyrch Trump, Corey Lewandowski, yn wynebu cyhuddiad o ymosod yn Florida yn dilyn gwrthdaro gyda newyddiadurwraig yn gynharach yn y mis.
Mae lluniau fideo sydd wedi cael eu rhyddhau gan yr heddlu yn ymddangos i ddangos Lewandowski yn cydio ym mraich y newyddiadurwraig wrth iddi geisio gofyn cwestiwn i Donald Trump yn ystod digwyddiad ar 8 Mawrth.
Mae Trump wedi dweud ei fod yn parhau’n gefnogol i Lewandowski ac mae disgwyl iddo bledio’n ddieuog i’r cyhuddiad.
Mae ymgeiswyr eraill y Gweriniaethwyr, Ted Cruz a John Kasich, hefyd yn Wisconsin ar gyfer rali cyn y bleidlais ar 5 Ebrill ynghyd ag ymgeiswyr y Democratiaid Hillary Clinton a Bernie Sanders.
Mae’r cyhuddiad yn erbyn Corey Lewandowski wedi ennyn ymateb chwyrn gan wrthwynebwyr Trump gyda Ted Cruz yn cyhuddo’r biliwnydd o feithrin diwylliant o “ymddygiad difrïol” a Hillary Clinton yn dweud mai “cyfrifoldeb Trump” oedd y digwyddiad.