Mae rheoliadau sy’n dod i rym heddiw yn golygu bod gan bobl hawl i gael gwersi nofio a chyrsiau eraill yn eu hawdurdod lleol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae mwy na chant o hawliau newydd i’r Gymraeg yn rhan o Safonau’r Gymraeg a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad y llynedd.
O ganlyniad, fe fydd rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau gwersi nofio, gohebiaeth, peiriannau hunanwasanaeth a chyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg o heddiw ymlaen.
Her
Er hyn, mae amod i’r safon sy’n golygu na fydd rhaid i’r rhan fwyaf o siroedd ddarparu’r gwasanaeth os oes asesiad yn dangos nad oes galw am y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg – ond nid yw hynny’n cynnwys Powys na Gwynedd.
Yn ogystal, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno her gyfreithiol i’r Safon yma, ac nid yw’r apêl wedi ei ddyfarnu eto.
‘Hollbwysig’
Wrth groesawu’r rheoliadau, dywedodd Manon Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod gwersi nofio a gweithgareddau tebyg yn y Gymraeg yn “hollbwysig.”
“Nid yn unig er mwyn i’r iaith allu ffynnu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ond hefyd er mwyn parchu’r hawl sydd gan blant, beth bynnag eu cefndir, i ddysgu a mwynhau yn iaith eu gwlad.
“Mae’n wych felly bod y gyfraith, o heddiw ymlaen, yn cydnabod yr hawl honno, ac y bydd Cynghorau Sir ymhob rhan o’r wlad yn gorfod darparu gwersi nofio a chyrsiau eraill yn y Gymraeg.”