Mae mudiad iaith wedi galw am sefydlu ‘fframwaith asesu gadarn’ yn ymwneud â’r Gymraeg wrth ystyried ceisiadau cynllunio.
Cafodd y Bil Cynllunio newydd ei gymeradwyo’r llynedd, ond mae Dyfodol i’r Iaith wedi llunio sylwadau ar y Bil, gan alw am asesiad arbenigol ar gyfer ystyriaeth o’r Gymraeg wrth gynllunio ledled Cymru.
Dywedodd Ruth Richards, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith, y bydd y mudiad yn “tynnu sylw’r Llywodraeth at yr ymarfer da sy’n datblygu eisoes mewn perthynas â Chynllun Datblygu Gwynedd a Môn.”
‘Cymru gyfan’
Esboniodd fod y siroedd hynny eisoes wedi cytuno i ailgloriannu’r dystiolaeth a chynnal asesiad annibynnol o ran effaith y Gymraeg a chynllunio.
Dywedodd fod cynrychiolaeth o fudiadau, Dyfodol i’r Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar Bwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn.
“Gobeithiwn bydd y broses hon, a’r cydweithio’n sefydlu patrwm ac ymarfer da, i’w mabwysiadu ar draws Gymru gyfan.”
Ychwanegodd eu bod am ffurfio “methodoleg gydnabyddedig, yn seiliedig ar arbenigedd ieithyddol a lleol,” wrth i geisiadau cynllunio gael eu hystyried.