Gwaith dur Port Talbot
Fe fydd yr undebau’n ymladd i geisio achub gwaith dur Port Talbot a gweddill eiddo Tata yng Nghymru.
Dyna addewid un o arweinwyr lleol undeb y diwydiant dur, Community, wrth ymateb yn hwyr neithiwr i’r newyddion fod y cwmni o India’n ystyried gwerthu’r cyfan.
Mae’r rheiny’n cynnwys gweithfeydd yn Llanwern ger Casnewydd, Trostre ger Llanelli a Shotton yn y gogledd-ddwyrain hefyd.
“Fyddwn ni ddim yn gadael i’r Llywodraeth na Tata osgoi eu cyfrifoldeb tros hyn,” meddai Alan Davies wrth y rhaglen radio, The World Tonight.
“Byddwn yn ymladd a cheisio achub bodolaeth y diwydiant dur ei hun. Mae’n rhaid i ni gael diwydiant dur hyfyw yn y Deyrnas Unedig.”
‘Sioc’
Roedd y posibilrwydd o werthu wedi dod yn sioc, meddai Alan Davies, ac fe alwodd ar i Tata wneud yn siŵr na fydden nhw’n gwerthu’r gweithfeydd i gwmnïau a fyddai eisiau cymryd mantais trwy gael gwared ar asedau.
Fe ddywedodd y byddai colli gwaith dur Port Talbot y chwalu economi’r dre’ a’r rhanbarth cyfan.