Mae ansicrwydd pellach i dros 3,000 o weithwyr dur ym Mhort Talbot heddiw yn dilyn cyhoeddiad neithiwr bod cwmni dur Tata yn ystyried gwerthu ei fusnes yn y DU.
Mae undebau wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad y cwmni a wnaed mewn cyfarfod o’r bwrdd yn Mumbai neithiwr.
Ond mae ‘na lygedyn o obaith i’r miloedd o weithwyr, gyda’r posibilrwydd y bydd cwmni arall yn prynu’r safle.
Mae Llywodraethau Cymru a’r DU wedi ymateb drwy gyhoeddi datganiad ar y cyd, gan ddweud eu bod yn “gweithio’n ddiflino” i geisio achub y diwydiant.
Ac mae galwadau cynyddol ar y llywodraethau i wladoli’r diwydiant, gan ei roi yn nwylo cyhoeddus nes eu bod yn gallu dod o hyd i brynwr.
Mae’r BBC yn adrodd y bore ma bod Llywodraeth Prydain yn ystyried ymyrryd yn uniongyrchol ac yn cefnogi cynllun undebau ac uwch-reolwyr i brynu’r safle ym Mhort Talbot.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y bore ma bod Llywodraeth Cymru yn fodlon gweithio gydag unrhyw un er mwyn sicrhau dyfodol y diwydiant.
Galw ar ACau i ail-ymgynnull
Mae gwleidyddion Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr Cymreig oll wedi galw ar Aelodau Cynulliad i ail-ymgynnull er mwyn ‘cydlynu ymateb brys’ i’r argyfwng.
Mae tymor y Cynulliad wedi dod i ben ar hyn o bryd, ond dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru y byddai “colli’r cyfle” i wneud rhywbeth yn “ergyd erchyll” i economi Cymru.
“Mae cael mwy o risg ac ansicrwydd yn annerbyniol,” meddai.
“Mae’n rhaid i weithredu pellach fod yn bendant a rhagweithiol, ac mae’n rhaid i ni barhau i frwydro i eithaf ein gallu i amddiffyn gweithwyr Tata a’u swyddi. Maen nhw’n haeddu ein cefnogaeth.”
Mae William Graham, AC dros y Ceidwadwyr Cymreig a chadeirydd Pwyllgor Busnes a Menter y Cynulliad eisoes wedi galw am gyfarfod brys o’r pwyllgor hwnnw.
Angen i bleidiau ‘weithio gyda’i gilydd’
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, “Mae pob gweithiwr yn Tata am weld pob opsiwn posib yn cael ei ystyried, i sicrhau gwerthiant llwyddiannus (o’r cwmni) a dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant yng Nghymru.
“Mae’r mater uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol a bydd yn rhaid i bob plaid weithio gyda’i gilydd i gyflawni hyn.”
Rhoddodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig y bai ar Lywodraethau Cymru a’r DU, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn “eistedd ar eu dwylo a chynnig dim” am flynyddoedd.
“Yn yr un modd, mae diffyg gweithredu gan y Llywodraeth Geidwadol yn gwbl anfaddeuol,” meddai Peter Black AC.
“Mae gormod o amser eisoes wedi cael ei wastraffu ac mae’n rhaid i ni weld gweithredu cadarnhaol gan y ddwy lywodraeth.”