Awyren EgyptAir ym maes awyr Larnaca
Mae awyren o’r Aifft wedi cael ei gorfodi i lanio yn Cyprus gan herwgipiwr sy’n honni ei fod yn gwisgo gwregys o ffrwydron.

Cafodd awyren EgyptAir ei meddiannu gan y dyn tra’n teithio o Alexandria i’r brifddinas Cairo yn yr Aifft, meddai awdurdod hedfan sifil y wlad.

Nid yw cymhelliad y dyn yn glir ar hyn o  bryd ond mae Arlywydd Cyprus Nicos Anastasiades wedi dweud nad yw’r digwyddiad “yn ymwneud a brawychiaeth.”

Mae’n ymddangos mai cymhelliad personol sydd y tu ôl i’r digwyddiad.

Mae adroddiadau bod pedwar o Brydain ac wyth o ddinasyddion America ymhlith y teithwyr.

Fe laniodd yr awyren ym maes awyr Larnaca tua 8.50 bore ma ac, yn dilyn trafodaethau, mae’r holl deithwyr wedi cael gadael yr awyren, ar wahân i bedwar o’r criw a thri teithiwr, meddai’r cwmni awyrennau.

Bygythiad

Mewn datganiad ar Twitter, dywedodd EgyptAir bod bygythiad wedi cael ei wneud gan un o’r teithwyr a’u bod yn gwisgo gwregys o ffrwydron.

Roedd yr Airbus A320 yn cludo 81 o deithwyr, a saith aelod o’r criw.

Ar ôl i’r awyren lanio ym maes awyr Larnaca, roedd yr herwgipiwr wedi gorchymyn yr heddlu i symud eu cerbydau i ffwrdd o’r awyren, meddai’r swyddog.

Nid yw’r Swyddfa Dramor wedi gallu cadarnhau a oes Prydeinwyr ymhlith y teithwyr ond dywedodd llefarydd eu bod wedi cysylltu â’r awdurdodau yn Cyprus a’r Aifft.