Mae nifer y plant sy’n cael eu harestio am droseddau yn ymwneud a gynnau wedi cynyddu ym Mhrydain dros y tair blynedd diwethaf, gyda phlant mor ifanc â 10 oed yn eu plith.

Rhwng 2013 a mis Ionawr 2016, cafodd mwy na 1,500 o blant eu harestio am droseddau yn ymwneud â gynnau, gyda’r ffigwr yn cynyddu 20% y llynedd.

Gangiau sy’n defnyddio plant i osgoi cael eu dal gan yr heddlu sy’n cael y bai am y cynnydd.

Cymru

Ers 2013, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod 14 o fechgyn wedi cael eu harestio am droseddau honedig yn ymwneud â gynnau. Roedd pump ohonyn nhw wedi cael eu harestio yn 2015, gan gynnwys bachgen 13 oed.

Dau blentyn a gafodd eu cyhuddo o gyflawni’r troseddau – merch 13 oed â gwn BB yn 2015 a bachgen 16 oedd â dyfais debyg i ‘Taser’ yn yr un flwyddyn.

Dywedodd Heddlu Gwent fod tri phlentyn wedi cael eu harestio am droseddau honedig yn ymwneud â gynnau ym mis Ionawr eleni, o gymharu â thri yn 2015, un yn 2014 a phump yn 2013.

Roedd y rhain yn cynnwys dau blentyn 14 oed, tri 16 oed a saith bachgen 17 oed.

Roedd pum cyhuddiad wedi cael eu gwneud, gan gynnwys un achos yn 2016, lle cafodd merch 16 oed ei chyhuddo o gadw gwn gyda’r bwriad o achosi braw.

Yn y de a’r canolbarth, dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod tri bachgen wedi cael eu harestio yn 2013, ond nad oedd unrhyw blentyn arall wedi cael eu harestio a doedd dim cyhuddiadau wedi cael eu gwneud.

Doedd Heddlu De Cymru heb benderfynu os byddai o fudd i’r cyhoedd i gyhoeddi’r wybodaeth.

Ceisio atal gangiau a’r diwylliant gynnau

Roedd heddlu mwyaf Prydain, yr Heddlu Metropolitan wedi dweud bod 679 o blant wedi cael eu harestio rhwng 2013 a 2016, gan gynnwys 30 o dan 13 oed.

212 oedd y nifer a gafodd eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â gynnau yn yr un cyfnod.

Yn ôl Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Heddlu, mae troseddau gynnau yn y DU yn cyfrif am 0.2% o gyfanswm y troseddau sy’n cael eu cofnodi.

“Mae heddluoedd ledled y wlad a phartneriaethau diogelwch cymunedol yn gweithio gyda’i gilydd i atal pobol ifanc rhag cael eu tynnu i mewn i gangiau a gynnau,” meddai llefarydd.