Mae dyn 24 oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu gan swyddogion arfog yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei weld gyda gwn, meddai heddlu Northumbria.

Cafodd yr heddlu eu glaw i Frenchmans Way, South Shields, yn ne Tyneside toc wedi 1yb lle’r oedd yr heddlu wedi dod i gysylltiad â’r dyn. Cafodd ei saethu unwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Northumbria bod y mater wedi cael ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) a bod hynny’n “arferol yn dilyn unrhyw ddigwyddiad lle mae person wedi cael anaf difrifol ar ôl dod i gysylltiad â’r heddlu.”

Mae swyddogion fforensig ac ymchwilwyr wedi cael eu hanfon i’r safle.