Mae awyren o’r Aifft, sydd wedi cael ei herwgipio, wedi glanio ym maes awyr Larnaca yn Cyprus.

Dywedodd swyddog ar ran llywodraeth Cyprus bod yna amheuon bod bom ar ei bwrdd ac ychwanegodd swyddog arall “ei bod yn ymddangos bod mwy nag un herwgipiwr.”

Yn ôl y swyddogion nid oes unrhyw orchmynion wedi cael eu gwneud ar wahân i orchymyn i symud cerbydau’r heddlu i ffwrdd o’r awyren.

Roedd yr awyren Airbus A320 yn teithio o Alexandria i Cairo yn yr Aifft, meddai’r awdurdodau hedfan. Mae’n debyg bod 81 o deithwyr ar ei bwrdd,  a pum aelod o’r criw. Mae adroddiadau bod wyth o Brydain ymhlith y teithwyr.

Mewn datganiad ar Twitter, dywedodd Egypt Air bod bygythiad wedi cael ei wneud gan un o’r teithwyr a oedd yn gwisgo gwregys llawn ffrwydron.

Yn ôl adroddiadau mae’r herwgipiwr wedi caniatáu i’r holl deithwyr adael yr awyren, ar wahan i’r criw a phump o dramorwyr.

Rhagor i ddilyn…