Mae bachgen bach a’i fam-gu ymysg y rheiny gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ar briffordd yr A470 ddydd Gwener y Groglith.

Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Dyfed-Powys fod Margaretta Jones, 77 o Gapel Bangor a’i hŵyr 5 oed, Ned Jones, wedi’u lladd yn syth yn y gwrthdrawiad rhwng Rhaeadr a chylchfan Llangurig.

Bu farw hefyd ddau deithiwr oedd yn teithio yn y car arall – Vida Alford, 86, a Gillian Alford, 58, a oedd yn hanu o Sir Amwythig.

Mae dyn 57 oed yn parhau yn yr ysbyty wedi iddo gael ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.