Mae gyrrwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru ar hyd traffordd yr M4 yn y cyfeiriad anghywir.
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw toc wedi 9yh nos Sul i gyffordd 43 Llandarsi yng Nghastell-nedd Port Talbot, a hynny wedi i dri char fod mewn gwrthdrawiad.
Fe gafodd dyn 43 oed ei arestio, ac fe gaewyd y lonydd tua’r gorllewin rhwng cyffyrdd 41 a 42 am rai oriau yn dilyn y ddamwain.