Mae dyn gafodd ei arestio gan yr awdurdodau yng ngwlad Belg mewn cysylltiad a’r ymosodiadau terfysgol yn ninas Brwsel, wedi cael ei ryddhau gan farnwr.

Doedd y barnwr ddim yn gweld bod digon o dystiolaeth i gyfiawnhau cadw Faycal C yn y ddalfa, meddai datganiad gan swyddfa’r erlynydd brynhawn heddiw.

Roedd adroddiadau blaenorol yn dweud fod Faycal C yn wynebu cyhueddiadau o fod “yn rhan o weithgareddau grwp terfysgol, llofruddiaeth terfysgol ac o geisio llofruddio mewn modd terfysgol”.

Ond mae’r heddlu yng ngwlad Belg heddiw wedi rhyddhau fideo arall heddiw o ddyn gyda’r ddau hunanfomiwr, gan ofyn am gymorth y cyhoedd wrth geisio darganfod pwy ydi o.