Bernie Sanders
Bernie Sanders oedd yn fuddugol yn yr etholiadau yn nhalaith Alasga, Washington a Hawaii i ddewis ymgeisydd y Democratiaid ar gyfer ras arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Roedd y tair talaith yn pleidleisio ddoe (dydd Sadwrn).
Fe dreuliodd y seneddwr o Vermont ran helaetha’r wythnos ddiwetha’ ar arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau, yn annerch ralïau anferth yn Seattle a dinasoedd eraill, gan obeithio sicrhau cefnogaeth y pleidleiswyr mwy rhyddfrydol.
Wedi’i fuddugoliaeth yn Alasga, roedd Bernie Sanders wedi cau’r bwlch rhyngddo a Hillary Clinton, ond mae’r ddwy fuddugoliaeth arall wedi gwneud tolc ym mwyafrif Clinton.
Y syms
Roedd Hillary Clinton ar y blaen i Bernie Sanders o 300 o seddi cyn i’r pleidleisio ddechrau ddoe. Mae ganddi bellach gyfanswm o 1,223 o seddi, o gymharu â’i 929 o. Os ydych chi’n cyfri’r uwch-seddi, neu swyddogion y blaid a fedr roi eu cefnogaeth i ymgeiswyr, yr amcangyfrif ydi fod gan Hillary Clinton beth bynnag 1,692, o gymharu â 958 Bernie Sanders. Mae angen 2,383 o seddi ar unrhyw ymgeisydd i gael ei ethol yn ymgeisydd.