Mae disgwyl torfeydd anferth yng nghanol dinas Dulyn dros y dyddiau nesaf wrth i Weriniaeth Iwerddon ddathlu canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn 1916.
Fe fydd y gweithgareddau’n cychwyn gyda seremoni yn yr Ardd Goffa yn Parnell Square yfory, a digwyddiad arbennig yn stadiwm yr RDS i berthnasau’r rheini a gymerodd ran yn y Gwrthryfel.
Dydd Sul y bydd uchafbwynt y dathliadau wrth i’r proclamasiwn rhyddid gael ei ddarllen y tu allan i’r Swyddfa Bost yn O’Connell Street a gorymdaith i ddilyn.
Fe fydd y dathliadau’n parhau ddydd Llun gyda chyfres o ddigwyddiadau yng nghanol y ddinas.