Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio y bydd yr A470 wedi cau am rai oriau yn y Canolbarth.

Caiff gyrwyr eu cynghori i chwilio am ffyrdd eraill addas wrth i’r heddlu ymdrin â gwrthdrawiad difrifol rhwng dau gerbyd ar y ffordd rhwng Rhaeadr a Llangurig.