Hillary Clinton
Mae Donald Trump a Hillary Clinton wedi ennill yn y rownd ddiweddaraf o bleidleisio yn Arizona i ddewis ymgeiswyr ar gyfer ras arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Sicrhaodd Trump bob un o bleidleisiau’r Gweriniaethwyr yn y dalaith, gan ennill cefnogaeth y siryf Joe Arpaio a chyn-lywodraethwr y dalaith, Jan Brewer.

Mae’r canlyniad yn siom i seneddwr Texas, Ted Cruz fu’n ymgyrchu ar y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico dros y penwythnos.

Mae lle i gredu bod Hillary Clinton wedi sicrhau dros hanner pleidleisiau’r dalaith, tra bod Bernie Sanders wedi ennill 16 o bleidleisiau.

Mae’r canlyniad yn golygu bod ganddi 1,203 o bleidleisiau erbyn hyn, o’i gymharu ag 860 i Bernie Sanders.

O ystyried pleidleisiau ychwanegol sy’n agored i swyddogion y pleidiau, 1,670 o bleidleisiau sydd gan Clinton o’i gymharu ag 886 i Sanders.

2,383 o bleidleisiau sydd eu hangen ar y Democratiaid i sicrhau’r enwebiad terfynol.

‘Angen arweinydd cryf, clyfar a sefydlog’ 

Wrth ddathlu ei buddugoliaeth yn Arizona, dywedodd Hillary Clinton fod angen arweinydd “cryf, clyfar a sefydlog yn fwy na dim” ar yr Unol Daleithiau i ymateb i fygythiadau i ddiogelwch fel yr un ym Mrwsel ar hyn o bryd.

Wrth gyfeirio at Trump dywedodd Clinton mai’r peth olaf sydd ei angen ar y wlad yw “arweinwyr sy’n creu rhagor o ofn”.

Daeth ei sylwadau ar ôl i Ted Cruz awgrymu fod angen goruchwylio’r gymuned Foslemaidd yn fwy gofalus yn dilyn yr ymosodiadau ym Mrwsel, tra bod Trump wedi awgrymu y byddai arteithio unigolyn sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol am ymosodiadau Paris y llynedd, wedi atal y digwyddiad diweddaraf.