Y ddau frawd Khalid a Brahim El Bakraoui
Mae’r Heddlu yng Ngwlad Belg wedi enwi dau frawd y maen nhw’n credu fu’n gyfrifol am yr ymosodiad brawychol ar faes awyr Zaventem ym Mrwsel fore ddoe.
Mae lle i gredu mai Khalid a Brahim El Bakraoui oedd yr hunan-fomwyr a ffrwydrodd ddau fom yn y maes awyr, yn ôl y cwmni darlledu cenedlaethol RTBF.
Roedd yr awdurdodau’n gwybod am y ddau cyn y digwyddiad, yn ôl adroddiadau.
Mae Gwlad Belg yn cael ei hail ddiwrnod cenedlaethol o alaru ddydd Mercher wrth i’r heddlu barhau i chwilio am drydydd dyn maen nhw’n credu fu’n cynorthwyo’r hunan-fomwyr. Mae’r heddlu wedi rhyddhau llun o’r dyn sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Najim Laachraoui, 24.
Heddlu'n chwilio am y dyn sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Najim Laachraoui
Mae’n cael ei amau o fod yn gyfrifol am y bomiau gafodd eu defnyddio yn ymosodiadau Paris ym mis Tachwedd ar ôl i olion ei DNA gael eu darganfod ar wregysau ffrwydron yn Theatr Bataclan a’r Stade de France.
Prydeiniwr ar goll
Bellach, mae 34 o bobol wedi marw ac o leiaf 198 wedi’u hanafu yn y ddau ymosodiad – y naill ar y maes awyr a’r llall ar orsaf Metro Maelbeek.
Mae’r awdurdodau wedi dechrau adnabod y rhai fu farw, ac fe ddaeth cadarnhad bod mam 37 oed o Beriw, Adelma Tapia yn eu plith.
Mae eraill yn dal ar goll gan gynnwys dyn o Hartlepool yn wreiddiol, David Dixon, a oedd wedi methu cyrraedd y gwaith fore dydd Mawrth.
Mae lle i gredu bod bomiau wedi cael eu cludo i’r maes awyr mewn cesys a’u bod wedi cael eu ffrwydro cyn cyrraedd gatiau diogelwch y maes awyr.
Y Wladwriaeth Islamaidd
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau’r dynion sy’n cael eu hamau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiadau, ac wedi apelio am wybodaeth.
Mae lle i gredu bod bomiau a baner y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi cael eu darganfod yn ystod cyrch ar dŷ ym Mrwsel.
Mae mesurau diogelwch llym yn eu lle yn nifer o wledydd Ewrop gan fod y tebygolrwydd o ymosodiad pellach yn dal yn uchel.
Nos Fawrth, cafodd gwylnos ei chynnal y tu allan i’r Place de le Bourse, sy’n gartref i Gyfnewidfa Stoc Gwlad Belg.