Maes Awyr Caerdydd
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi beirniadu Llywodraeth Cymru’n hallt am nad oes ganddi gynllun busnes hirdymor ar gyfer Maes Awyr Caerdydd.
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd wedi canfod bod y maes awyr yn methu ei dargedau ei hun o ran nifer y teithwyr sy’n ei ddefnyddio a’r elw mae’n ei wneud.
Ond yn ôl y llywodraeth, mae sylwadau’r Pwyllgor yn gwrth-ddweud ei ganfyddiadau, gan ddweud bod y Pwyllgor wedi cytuno bod “rhesymeg glir” dros drosglwyddo’r maes awyr i ddwylo cyhoeddus.
‘Gwendidau’ y Llywodraeth
Yn ei adroddiad, mae’r Pwyllgor yn cydnabod hyn ond, meddai bod “gwendidau yn y gwaith paratoi a wnaed gan Lywodraeth Cymru” cyn prynu’r maes awyr o gwmni Abertis yn 2013.
Daw hyn ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru nodi hefyd bod y maes awyr wedi “costio dwbl ei werth” i’r llywodraeth, a bod “gwendidau” yn y broses o’i brynu.
Er bod nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r maes awyr wedi cynyddu, dydy’r nifer heb gyrraedd y targed ac mae ei reolwyr wedi cydnabod bod y niferoedd “flwyddyn” ar ei hôl hi, meddai’r Pwyllgor.
“Mae’n amlwg o’n hadroddiad nad yw tybiaethau Llywodraeth Cymru ynghylch perfformiad masnachol Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol wedi cael eu gwireddu, o leiaf yn y tymor byr,” meddai Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
“Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan Gymru faes awyr rhyngwladol ei hun, a’r manteision ehangach sy’n deillio i Gymru o’i gael.
“Fodd bynnag, er bod gan y maes awyr y potensial i dyfu’n sylweddol, rydym yn nodi bod y cynnydd yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r maes awyr y tu ôl i’r targed.”
Taro buddiannau posib
Cafodd cwestiynau eu codi yn yr adroddiad hefyd ynghylch bwrdd cyfarwyddwyr y maes awyr, a “diffyg profiad” aelodau’r bwrdd ym maes hedfan.
Mae pryderon hefyd ynghylch y posibilrwydd o ‘wrthdaro buddiannau’ – thema sydd wedi codi sawl tro yn ôl y Pwyllgor, gan fod aelod o fwrdd Holdco, cwmni hyd braich y maes awyr, hefyd yn un o uwch-weision sifil y llywodraeth, a hynny mewn adran sydd wedi torri gwariant hysbysebu’r maes awyr.
Yn yr adroddiad, mae’r Pwyllgor yn cyflwyno 10 o argymhellion, gan gynnwys ehangu bwrdd cyfarwyddwyr y maes awyr i gynnwys pobol fwy profiadol yn y maes a bod Llywodraeth Cymru yn cysylltu â Transport Scotland i ddilyn model yr Alban.
‘Gwrth-ddweud’
Mewn ymateb, dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, fod sylwadau’r Pwyllgor yn “gwrth-ddweud” ei ganfyddiadau.
“Mae’r Cadeirydd yn cytuno gyda’r ‘pwysigrwydd o gael ei maes awyr rhyngwladol ei hun i Gymru a’r manteision ehangach i Gymru o hyn’,” meddai.
Dywedodd fod y Cadeirydd hefyd wedi nodi bod pris y maes awyr yn gallu cael ei “gyfiawnhau” a bod “trefniadau rheoli ei buddsoddiad yn y maes awyr yn gadarn.”
“Os na fyddwn wedi gweithredu’n ddigon cyflym, byddai’r maes awyr wedi cau yn sicr. Yn hytrach, mae boddhad y cwsmer ar ei uchaf erioed, gyda 1.2 miliwn o deithwyr yn defnyddio’r maes awyr dros y 12 mis diwethaf – y nifer uchaf ers 2011,” meddai Edwina Hart.