Llun CCTV o ddyn mae heddlu Gwlad Belg yn awyddus i ddod o hyd iddo
Mae’r heddlu yng Ngwlad Belg yn cynnal cyrchoedd i chwilio am un o’r brawychwyr sy’n cael ei amau o fod yn rhan o’r ymosodiadau ym Mrwsel heddiw.

Mae 34 o bobl wedi’u lladd a bron i 200 wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiadau ar faes awyr Brwsel a system drenau Metro’r brifddinas.

Dywedodd erlynydd Gwlad Belg, Frederic Van Leeuw, bod dau o’r hunan-fomwyr wedi marw yn yr ymosodiad ym maes awyr Brwsel a’u bod yn chwilio am drydydd person.

Mae’r awdurdodau wedi rhyddhau llun teledu cylch cyfyng (CCTV) o ddyn maen nhw’n awyddus i ddod o hyd iddo mewn cysylltiad â’r ffrwydradau.

Cafodd ei weld gyda dau ddyn arall ym maes awyr Zaventem funudau cyn i’r ddau fom ffrwydro.

Cafodd trydydd bom ei wneud yn ddiogel yn y maes awyr oriau ar ôl yr ymosodiad.

Apêl am wybodaeth

Mewn datganiad, dywedodd heddlu Gwlad Belg eu bod yn apelio am wybodaeth am y dyn a oedd yn gwisgo het a siaced olau.

“Mae’r heddlu eisiau adnabod y dyn yma. Mae’n cael ei amau o gyflawni’r ymosodiad yn Zaventem ddydd Mawrth.

“Os ydych yn adnabod yr unigolyn neu os oes gennych wybodaeth am yr ymosodiad, yna cysylltwch â  ni ar 0800 30 300,” meddai’r datganiad.

Mae Prif Weinidog Gwlad Belg Charles Michel wedi dweud y bydd y wlad yn tynhau’r diogelwch ar ei ffiniau. Mae wedi cyhoeddi tridiau o alaru yn dilyn yr “ymosodiadau trasig” ar y wlad.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.