Barack Obama fydd Arlywydd cynta’r Unol Daleithiau i fynd i Giwba ers 88 o flynyddoedd pan fydd e’n dechrau taith 48 awr yn ddiweddarach ddydd Sul.
Mae’r elyniaeth rhwng y ddwy wlad dros y degawdau’n golygu mai Calvin Coolidge oedd yr arlywydd diwethaf i fynd yno.
Mae’r ymweliad yn bosib yn dilyn cytundeb rhwng Obama a Raul Castro yn 2014 i wella’r berthynas rhwng y ddwy wlad a gafodd ei dinsitrio ymhellach gan ymdriniaeth Ciwba o lywodraeth yr Unol Daleithiau yn 1959.
Mae delweddau o Obama a Castro ar ymyl y ffyrdd yn Havana yn barod ar gyfer yr ymweliad.
Ond mae rhai tensiynau o hyd rhwng y ddwy wlad.
Mae Ciwba wedi gofyn am gael codi’r embargo economaidd a fu mewn grym ers 54 o flynyddoedd, ond mae’r Gweriniaethwyr wedi atal ymdrechion Obama i wneud hynny mor belled.
Ond mae Obama wedi llwyddo i lacio cyfyngiadau ar deithio a masnachu.
Un peth na fydd Obama yn fodlon ei ddiddymu – am y tro, o leiaf – yw rheolaeth yr Unol Daleithiau dros safle’r llynges ym Mae Guantanemo, ac mae Ciwba hefyd yn anfodlon fod yr Unol Daleithiau’n barod i gefnogi carfannau sy’n gwrthwynebu llywodraeth Ciwba.
Mae’r Unol Daleithiau’n awyddus i weddnewid system wleidyddol Ciwba ac ymdriniaeth y llywodraeth o wrthbleidiau.
Ychydig iawn o gynnydd sy’n cael ei ragweld yn ystod y dyddiau nesaf.
Does dim disgwyl ar hyn o bryd i Obama fynd i weld Fidel Castro.