Mae hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland yn barod i anghofio am yr ymgyrch siomedig ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni wrth iddo droi ei sylw at daith i Seland Newydd dros yr haf.
Dydy Cymru ddim wedi curo’r Crysau Duon mewn 26 o gemau, a daeth eu buddugoliaeth diwethaf yng Nghymru 1953.
Ond dydyn nhw erioed wedi curo’r cewri ar eu tomen eu hunain.
Bydd y ddwy wlad yn mynd ben-ben mewn tri phrawf, ond y tro hwn fe fydd y Crysau Duon heb eu capten Richie McCaw, Dan Carter, Ma’a Nonu a Conrad Smith.
Cystadleuaeth ddigon siomedig gafodd Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, gan orffen yn ail wrth i Loegr gipio’r Gamp Lawn.
Dywedodd Gatland: “Dw i ddim yn meddwl y byddech chi fyth yn tanbrisio Seland Newydd gyda’r ansawdd sydd gyda nhw o ran chwaraewyr. Gydag unrhyw dîm, rhaid i chi fynd a chredu yn eich gallu eich hun.
“Rydyn ni’n gwastraffu’n amser wrth fynd ar yr awyren os nad ydyn ni’n credu y gallwn ni fynd yno a gwthio Seland Newydd yn galed. Rhaid i ni gredu ynom ni’n hunain.
“Rhaid i ni fynd yno gan gredu y gall pethau fynd o’n plaid ni ar y dydd a’n bod ni’n ddigon da i ennill.”
Sgoriodd Cymru mwy o geisiau a phwyntiau nag unrhyw wlad arall yn y gystadleuaeth eleni, a dim ond Lloegr oedd ag amddiffyn gwell na Chymru yn y pen draw.
Ychwanegodd Gatland: “Fe siaradon ni am geisio newid ein dull o chwarae ar ddechrau’r gystadleuaeth hon.
“Dydy e ddim yn digwydd dros nos, mae’n cymryd ychydig o amser pan fyddwch chi’n ceisio newid pethau. Ry’n ni wedi cymysgu pethau gyda rhai o’r blaenwyr yn chwarae’n fwy llydan.
“Dydyn ni ddim cweit wedi tycio wrth i’r ymgyrch fynd yn ei blaen, ond roedd adegau pan wnaethon ni dycio, fel rhan ola’r ail hanner yn erbyn Lloegr ac yn erbyn yr Eidal, a rhannau o gemau eraill pan wnaethon ni ddechrau dangos addewid ac mae’n ymddangos yn ddull y gallwn ni ei ddatblygu.”
Bydd Cymru’n dychwelyd i Twickenham ar Fai 29 i herio Lloegr cyn herio Seland Newydd.