Thomas yn cefnogi Chris Froome yn y Volta a Catalunya ddydd Llun
Bydd y Cymro Geraint Thomas yn holliach i rasio yn ras seiclo’r Volta a Catalunya ddydd Llun er iddo gael ei anafu yn ystod y ras Milan-San Remo ddydd Sadwrn.
Syrthiodd Thomas yng nghanol gwrthdrawiad 30km o’r llinell derfyn a chyn i’r ras fynd i fyny’r Cipressa.
Glaniodd Thomas ar ei glin ac roedd yn gwaedu.
Dywedodd y Cymro wrth wefan Cycling Weekly: “Do’n i ddim mewn safle da, felly ro’n i’n symud i fyny’r ochr dde, a’r peth nesaf, roedd pawb wedi cael gwrthdrawiad o’m blaen.
“Gwnes i frecio a llwyddo i arafu, ond doedd unman i fynd gyda wal fawr a draen wrth fy ochr. Gwnes i daro fy nglin, ond rwy’n iawn.”
Dechreuodd Thomas y ras yn gryf wrth arwain Team Sky ac roedd disgwyl iddo anelu am fuddugoliaeth wrth ddringo’r Poggio, ac fe fynegodd ei siom gyda’r canlyniad.
“Mae’n boendod. Ry’ch chi’n treulio’r diwrnod cyfan yn bwyta ac yn aros allan o’r gwynt, a’r peth nesaf, dydych chi ddim yn cael rasio pan fo hynny’n digwydd.
Bydd Thomas a Chris Froome yn cynrychioli Team Sky yng Nghatalwnia cyn i’r Cymro droi ei sylw at y Tour yn Fflandrys, sy’n ras undydd, ymhen pythefnos.