Cytundeb i geisio rheoli nifer y ffoaduriaid
Mae dau ffoadur wedi marw ar gwch sydd wedi cyrraedd Lesbos ar ddiwrnod cyflwyno cytundeb newydd rhwng Twrci a’r Undeb Ewropeaidd.

Ceisiodd staff feddygol yn ofer i achub y ddau ddyn.

Roedd y cwch yn orlawn o ffoaduriaid o Dwrci.

Mae’r cytundeb newydd yn nodi sut y bydd ffoaduriaid o Dwrci’n cael eu prosesu a’u hanfon yn ôl o Wlad Groeg.

Mae oddeutu 2,500 o ffoaduriaid yn cael eu cludo Lesbos i Wlad Groeg er mwyn eu cadw mewn lloches cyn cael eu hanfon i wledydd eraill Ewrop.

Cefndir y mesurau newydd

Dywed y cytundeb newydd fod rhaid i ffoaduriaid sy’n cyrraedd Gwlad Groeg ddychwelyd i Dwrci os nad ydyn nhw’n ceisio am loches neu os caiff eu cais ei wrthod.

Mae llywodraeth Gwlad Groeg wedi dweud na fydd modd gweithredu’r mesurau newydd ar unwaith.

Mae miloedd o bobol ledled Ewrop wedi bod yn protestio yn erbyn y mesurau.