Mae pump o bobol wedi’u lladd wedi i hunanfomiwr ymosod ar brif stryd siopa dinas Istanbul.
Mae 20 o bobol eraill wedi’u hanafu yn dilyn y ffrwydriad ar Stryd Istiklal, ac mae tri o’r rheiny mewn cyflwr difrifol.
Mae gorsaf deledu NTV yn adrodd bod y ffrwydriad wedi digwydd y tu allan i ganolfan siopa ar y brif stryd, lle mae nifer o gaffis, bwytai ac adeiladau llysgenhadon tramor.
Mae llywodraeth Twrci yn dweud ei bod wedi cyflwyno mesurau diogelwch llymach yn ninasoedd Ankara ac Istanbul yn y cyfnod yn arwain at wyl wanwyn y Cwrdiaid ar Fawrth 21.