Gorsaf bwer Didcot, a rhan o'r adeilad wedi chwalu ar Chwefror 23
Mae’r gwaith mawr yn dechrau heddiw ar glirio’r rwbel o safle gorsaf bwer Didcot, lle mae cyrff tri o’r gweithwyr yn parhau ar goll.

Mewn datganiad, fe gyfaddefodd perchnogion y safle, cwmni egni RWE, y byddai hin “broses hir” i symud gweddillion yr adeiladau yn ofalus.

Mae swyddogion y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, ynghyd â phlismyn Thames Valley, yn goruchwylio’r gwaith yn Swydd Rhydychen.

Mae’r contractwyr dad-gomisiynu Ken Cresswell, 57, a John Shaw, 61, o Dde Swydd Efrog yn dal ar goll, ynghyd â’r Cymro, Chris Huxtable o Abertawe, wedi i’r adeilad yr oedden nhw’n gweithio yno ddymchwel ar Chwefror 23.